Stakeholders in the waste and recycling management industry of Wales are invited to contribute to a review of the Sustainable Resource Management Pathway, part of the Welsh Energy & Utilities Apprenticeship Framework.
The review is supported by funding from the Welsh Government.
Apprenticeships enable employers to support succession planning and identify managers of the future whilst delivering improved staff motivation and retention.
The review of the Sustainable Resource Management Pathway provides a key opportunity to address the current and future skills shortages identified by the industry, as well as to identify ways the industry can meet the needs of the green economy.
The review will take place between August 2022 and January 2023, with the revised Pathway expected to be available by mid-2023.
In order to ensure the revised Pathway meets the current and future skills needs of the industry, it is vital we secure the views of a range of stakeholders and industry experts.
The initial opportunity to contribute will be through a virtual working group at 2.00pm on Thursday 29 September.
The working group will:
- Identify the content of the Pathway, ensuring it meets the needs of employers and is written to a standard format that can easily be understood.
- Confirm the Pathway aligns with any specific Welsh legislative and language requirements.
- Confirm that any included qualifications are appropriate and add value to the quality of the pathway.
Click here to book your place on the working group, or contact us to confirm your interest.
Our Standards and Qualification Review Privacy Notice sets out how Energy & Utility Skills uses and protects any information you give us as part of the Framework development process.
Want to get involved, or have any questions? – Contact Standards Review for more information.
Cymerwch ran mewn adolygiad o Fframwaith Prentisiaethau Cymru mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy
Cefnogir yr adolygiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Gwahoddir rhanddeiliaid yn niwydiant rheoli gwastraff ac ailgylchu Cymru gyfrannu at adolygiad o’r Llwybr Rheoli Adnoddau Cynaliadwy, rhan o Fframwaith Prentisiaethau Ynni a Chyfleustodau Cymru.
Cefnogir yr adolygiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Mae prentisiaethau’n galluogi cyflogwyr i gefnogi cynllunio olynol a nodi rheolwyr y dyfodol tra’n sicrhau gwell cymhelliant a chadw staff.
Mae’r adolygiad o’r Llwybr Rheoli Adnoddau Cynaliadwy yn gyfle allweddol i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau presennol ac yn y dyfodol a nodwyd gan y diwydiant, yn ogystal â nodi ffyrdd y gall y diwydiant fodloni anghenion yr economi werdd.
Cynhelir yr adolygiad rhwng Awst 2022 a Ionawr 2023, a disgwylir i’r Llwybr diwygiedig fod ar gael erbyn canol 2023.
Er mwyn sicrhau bod y Llwybr diwygiedig yn bodloni anghenion sgiliau’r diwydiant presennol ac yn y dyfodol, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau barn gan amrywiaeth o randdeiliaid ac arbenigwyr yn y diwydiant.
Bydd y cyfle cyntaf i gyfrannu drwy weithgor rhithiol am 2.00pm ddydd Lau 29 Medi.
Bydd y gweithgor yn:
- Nodi cynnwys y Llwybr, gan sicrhau ei fod yn bodloni anghenion cyflogwyr a’i fod wedi’i ysgrifennu i fformat safonol y gellir ei ddeall yn hawdd.
- Cadarnhau bod y Llwybr yn cyd-fynd ag unrhyw ofynion deddfwriaethol ac iaith penodol yng Nghymru.
- Cadarnhau bod unrhyw gymwysterau sydd wedi’u cynnwys yn briodol ac ychwanegu gwerth at ansawdd y llwybr.
Cliciwch yma i archebu eich lle ar y gweithgor, neu cysylltwch â ni i gadarnhau eich diddordeb.
Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd Adolygiad Safonau a Chymwysterau yn nodi sut mae Sgiliau Ynni a Chyfleustodau yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni fel rhan o’r broses o ddatblygu’r Fframwaith.
Eisiau cymryd rhan, neu oes gennych unrhyw gwestiynau? — Cysylltwch â’r Adolygiad Safonau i gael mwy o wybodaeth.