Building on a successful track record in reviewing and developing National Occupational Standards (NOS), Energy & Utility Skills are excited to share news of our recent appointment by Skills Development Scotland (SDS) to review a range of energy and utility NOS during 2023-24.
NOS simply describe what an employee needs to do and needs to know to perform a work activity. They are subject to formal consultation and approval processes and are approved by UK government regulators. NOS are used as building blocks of in-house programme development and are a key component for qualifications and frameworks.
The NOS suites under review for this year are as follows:
- Multi-Utility Network Construction (feedback gathered as part of the gas and water network construction reviews last year will be considered as part of this review).
- Water Treatment Processing & Control
- Water Regulations
- Smart Metering
- Wind Turbine
Get Involved
To ensure the NOS consider the latest innovation and working practices in the sector, and are fit for purpose, we are inviting industry representatives with industry knowledge and expertise (including employers, training providers and professional bodies) to get involved.
We are running project launch sessions to provide an overview of the NOS reviews, discuss early considerations for the NOS and help you understand how you can get involved.
Project launch sessions will be on the following dates.
NOS Suite | Date for Project Launch Session |
Multi-Utility Network Construction | Tuesday 19 Sept: 10:00 – 11:00 |
Water Treatment Processing & Control | Friday 22 Sept: 10:30 – 11:30 |
Water Regulations | Thursday 21 Sept: 11:30 – 12:30 |
Smart Metering | Friday 29 Sept: 09:30 – 10:30 |
Wind Turbine | Thursday 28 Sept: 14:00 – 15:00 |
For each of the NOS under review, a series of review workshops will then be scheduled throughout October to review the NOS suites.
To register your interest, please email standardsreview@euskills.co.uk with your contact details and confirmation of which NOS review you would like to be involved in. A member of the team will be in touch.
Links to the current NOS suites can be found below:
- Multi-Utility Network Construction
- Water Treatment Processing & Control
- Water Regulations
- Smart Metering
- Wind Turbine
For further information about how we will use and protect any information you provide for us as a part of the framework development process, please read our Standards and Qualification Review Privacy Notice.
Helpu i lunio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ynni a chyfleustodau
Mae Energy & Utility Skills yn chwilio am gynrychiolwyr o’r diwydiant i helpu i adolygu safonau ar gyfer y sector ynni a chyfleustodau.
Gan adeiladu ar hanes llwyddiannus o adolygu a datblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS), mae Energy & Utility Skills yn llawn cyffro i rannu newyddion am ein penodiad diweddar gan Skills Development Scotland (SDS) i adolygu ystod o NOS ynni a chyfleustodau yn ystod 2023-24.
Yn syml, mae NOS yn disgrifio’r hyn y mae angen i gyflogai ei wneud a’r hyn y mae angen iddo ei wybod i gyflawni gweithgaredd gwaith. Maent yn destun ymgynghoriad ffurfiol a phrosesau cymeradwyo ac yn cael eu cymeradwyo gan reoleiddwyr llywodraeth y DU. Defnyddir NOS fel blociau adeiladu ar gyfer datblygu rhaglenni mewnol ac maent yn gydran allweddol ar gyfer cymwysterau a fframweithiau.
Mae’r cyfresi NOS sy’n cael eu hadolygu ar gyfer eleni fel a ganlyn:
- Adeiladu Rhwydwaith Aml-Gyfleustod (bydd adborth a gasglwyd fel rhan o’r adolygiadau adeiladu rhwydwaith nwy a dŵr y llynedd yn cael ei ystyried fel rhan o’r adolygiad hwn).
- Prosesu a Rheoli Trin Dŵr
- Rheoliadau Dŵr
- Mesuryddion Clyfar
- Tyrbin Gwynt
Cymerwch ran
Er mwyn sicrhau bod y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn rhoi ystyriaeth i’r arloesedd a’r arferion gwaith diweddaraf yn y sector, a’u bod yn addas at y diben, rydym yn gwahodd cynrychiolwyr o’r diwydiant sydd â gwybodaeth ac arbenigedd yn y diwydiant (gan gynnwys cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a chyrff proffesiynol) i gymryd rhan.
Rydym yn cynnal sesiynau lansio prosiect i roi trosolwg o’r adolygiadau NOS, trafod ystyriaethau cynnar ar gyfer y NOS a’ch helpu i ddeall sut y gallwch gymryd rhan.
Cynhelir sesiynau lansio prosiect ar y dyddiadau canlynol.
Cyfres NOS | Dyddiad ar gyfer Sesiwn Lansio Prosiect |
Adeiladu Rhwydwaith Aml-Gyfleustod | Dydd Mawrth 19 Medi: 10:00 – 11:00 |
Prosesu a Rheoli Trin Dŵr | Dydd Gwener 22 Medi: 10:30 – 11:30 |
Rheoliadau Dŵr | Dydd Iau 21 Medi: 11:30 – 12:30 |
Mesuryddion Clyfar | Dydd Gwener 29 Medi: 09:30 – 10:30 |
Tyrbin Gwynt | Dydd Iau 28 Medi: 14:00 – 15:00 |
Ar gyfer pob un o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n cael eu hadolygu, bydd cyfres o weithdai adolygu’n cael eu trefnu drwy gydol mis Hydref i adolygu’r cyfresi NOS.
I gofrestru eich diddordeb, e-bostiwch standardsreview@euskills.co.uk gyda’ch manylion cyswllt a chadarnhad o ba adolygiad NOS yr hoffech fod yn rhan ohono. Bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.
Mae dolenni i’r cyfresi NOS presennol i’w gweld isod:
- Adeiladu Rhwydwaith Aml-Gyfleustod
- Prosesu a Rheoli Trin Dŵr
- Rheoliadau Dŵr
- Mesuryddion Clyfar
- Tyrbin Gwynt
I gael rhagor o wybodaeth am sut y byddwn yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni fel rhan o’r broses datblygu fframwaith, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd Adolygu Safonau a Chymwysterau.